Pennod 1.
IECHYD A LLESIANT

Addewid Llafur Cymru i Gymru

Byddwn yn:

  1. Sefydlu ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru i godi'r niferoedd mewn hyfforddiant meddygol. Byddwn yn cynyddu cyllid hyfforddi 8% yn 2021 a dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn hyfforddi 12,000 o feddygon, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a seicolegwyr. Byddwn yn parhau i ariannu bwrsariaeth y GIG i gefnogi pawb sy'n hyfforddi i fod yn nyrs neu'n weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd.
  2. Cadw presgripsiynau yn rhad ac am ddim yng Nghymru, yn wahanol i Loegr o dan y Torïaid, lle mae pob eitem presgripsiwn yn costio £9.15. Byddwn hefyd yn cadw parcio ceir mewn ysbytai yng Nghymru yn rhad ac am ddim.
  3. Parhau i ddarparu PPE yn rhad ac am ddim i staff iechyd a gofal cyhyd ag sydd ei angen i ddelio â'r pandemig. Byddwn yn parhau i ariannu ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru a redir yn gyhoeddus ac sy'n llwyddiannus iawn.
  4. Ariannu gwasanaethau'r GIG i adfer a darparu'r triniaethau a gafodd eu hoedi ac y mae pobl yn aros amdanynt. Byddwn yn cryfhau arweinyddiaeth genedlaethol trwy Weithrediaeth Genedlaethol newydd i sicrhau bod ein gwasanaethau clinigol yn cael eu paratoi'n llawn ar gyfer heriau'r 21ain ganrif.
  5. Blaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl i helpu gydag adferiad tymor hir o'r pandemig. Byddwn yn buddsoddi yn ein gweithlu, gan hyfforddi pobl i ddarparu cefnogaeth gynnar i lesiant meddyliol a gwytnwch. Byddwn yn blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i'r afael â stigma a hyrwyddo dull dim-drws-anghywir o gymorth iechyd meddwl i bawb.
  6. Sicrhau fod y GIG yn parhau i ganolbwyntio ar ofal diwedd oes a byddwn yn ymrwymo i adolygu cynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbis.
  7. Buddsoddi mewn  a chyflwyno technoleg newydd sy'n cefnogi cyngor a thriniaethau cyflym ac effeithiol. Byddwn yn cyflwyno e-bresgreibio ac yn cefnogi datblygiadau sy'n galluogi canfod clefyd yn fanwl gywir trwy ddeallusrwydd artiffisial.
  1. Cyflwyno gwell mynediad at wasanaethau meddygon teulu, deintyddol ac optometreg. Byddwn yn parhau i ddiwygio gofal sylfaenol, gan ddwyn at ei gilydd y gwasanaethau meddygon teulu, partneriaid fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a'r trydydd sector i gefnogi pobl i aros yn iach.
  2. Buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru. Byddwn yn cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i fynd i'r afael ag unigedd. Mewn partneriaeth â'n prifysgolion, byddwn yn ariannu tair Academi Dysgu Dwys newydd i wella profiadau a chanlyniadau i gleifion.
  3. Gweithio gydag elusennau a chlinigwyr i ddatblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru a chwilio am ffyrdd i annog profi am HIV, lleihau diagnosis hwyr a hyrwyddo cyflwyno cyffuriau atal. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r stigma a brofir gan y rhai sy'n byw gyda HIV.
  4. Adeiladu ar lwyddiant ein Dull Ysgol Gyfan o iechyd meddwl i blant a phobl ifanc trwy gyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ‘o fewn cyrraedd’ mewn ysgolion ledled Cymru. Byddwn yn cefnogi llesiant meddyliol ar draws ein cymunedau gan weithio gyda'r celfyddydau, chwaraeon a sefydliadau gwirfoddol.
  5.  Cyflwyno cod ymarfer statudol i awtistiaeth ynghylch darparu gwasanaethau awtistiaeth. Bydd yn nodi'r hyn y mae angen i wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill ei ystyried wrth ddiwallu anghenion pobl awtistig a'u gofalwyr. 

Mae pandemig y coronafeirws wedi rhoi pwysau anferth ar ein GIG ond mae hefyd wedi dangos ein gwasanaeth iechyd ar ei orau. Tynnodd sylw at ymroddiad, gofal a sgiliau aruthrol y gweithlu - curiad calon ein gwasanaethau iechyd a gofal - ac mae ffyrdd newydd o weithio a thechnoleg wedi'u cyflwyno bron dros nos.

Bu Llafur Cymru yn blaid y GIG erioed; rydym wastad wedi buddsoddi yng ngwasanaethau'r GIG a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i wneud hynny i greu GIG yr 21ain ganrif, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel mor agos at gartrefi pobl â phosibl.

Rydym yn gwybod bod pobl yn poeni am oedi eu triniaethau oherwydd y pandemig. Byddwn yn buddsoddi'n helaeth mewn adferiad ôl-Covid i ymateb i anghenion cyfredol a mynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau a llawdriniaethau a ohiriwyd oherwydd y pandemig i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Rhaid i atal a llesiant fod wrth wraidd y ffordd ymlaen i'n GIG wrth inni symud y tu hwnt i'r argyfwng Covid presennol. Mae tlodi, gorlenwi tai, gordewdra, cyflyrau iechyd sylfaenol neu anabledd i gyd yn ffactorau hanfodol sydd wedi cael eu hamlygu gan y pandemig. Byddwn yn creu GIG tecach, gan ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd a niwed y gellir ei atal.

Byddwn yn dyfnhau integreiddiad y gwasanaethau iechyd a gofal ac yn ehangu'r defnydd o dechnolegau newydd i ymgysylltu â chleifion a gofalwyr. Byddwn yn darparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel sy'n agos at gartrefi pobl ac yn cefnogi pobl i aros yn iach a byw'n dda am fwy o amser. Credwn y dylai gofal iechyd fod mor lleol â phosibl a bob amser yn gysylltiedig â phartneriaid allweddol eraill - yn enwedig darparwyr gofal, y trydydd sector, a gwasanaethau awdurdodau lleol, a'i ddarparu yng nghanol ein trefi a'n cymunedau.

Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i GIG rhad ac am ddim i Gymru, a dyma fydd ein prif flaenoriaeth wrth inni ddod allan o'r pandemig. Wrth symud y GIG ymlaen ar gyfer Cymru, byddwn yn adeiladu ar y sylfeini cryf a'r cyflawniadau gwirioneddol a gyflawnwyd gan Lafur dros y pum mlynedd diwethaf.

Beth wnaethom mewn llywodraeth

  • Am y saith mlynedd diwethaf, rydym wedi rhoi codiadau cyllid blynyddol i gefnogi addysg a hyfforddiant iechyd ac rydym bellach wedi recriwtio'r nifer uchaf erioed o feddygon, nyrsys a bydwragedd rheng flaen. At ei gilydd, mae ein gweithlu GIG Cymru wedi tyfu 11.8% dros y pum mlynedd diwethaf. Eleni, rydym wedi recriwtio 200 o feddygon teulu dan hyfforddiant.
  • Sicrhaodd Llafur Cymru daliad bonws arbennig o £735 i’n staff GIG i ddiolch iddynt am eu hymroddiad rhyfeddol yn ystod y pandemig.
  • Ni oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i roi lefelau staff nyrsio mewn cyfraith - gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau a phrofiad cleifion ac ansawdd gofal.
  • Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno un llwybr canser, gan sicrhau bod pawb yn cael y gofal a'r driniaeth orau bosibl. Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn cynyddu.
  • Mae Cronfa Triniaeth Newydd flaenllaw Llafur Cymru gwerth £80m wedi sicrhau bod 232 o feddyginiaethau newydd ar gael i'r GIG o fewn 13 diwrnod ar gyfartaledd.
  • Fe wnaethom ni gyflwyno'r gwasanaeth hunaniaeth rhywedd cyntaf erioed yng Nghymru yn 2019 gan ddarparu help a chefnogaeth hanfodol i bobl yn nes at adref.
  • Cymru yw'r rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno profion anfewnwthiol arbennig ar gyfer babanod cyn iddynt gael eu geni, gan helpu i leihau'r risg o gamesgoriad.
  • Mae cyfraddau imiwneiddio plant yng Nghymru yn parhau i fod ymhlith y gorau yn y byd. Mae mwyafrif helaeth y plant yng Nghymru wedi'u hamddiffyn rhag ystod eang o afiechydon sy'n peryglu bywyd, cyn iddynt ddechrau'r ysgol.
  • O dan Lafur Cymru, ein GIG oedd y gwasanaeth iechyd cyntaf yn y DU i ymrwymo i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030. Mae proffylacsis cyn-amlygiad (PrEP) bellach ar gael i atal haint HIV yng Nghymru ac rydym wedi dod â'r gwaharddiad ar roi gwaed hoyw, fel y'i gelwir, i ben.
  • Mae gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig â risg anghymesur o gael y  feirws ac fe wnaethom sefydlu Grŵp Cynghori Covid 19 Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig yn gyflym gan arwain at Adnodd Asesu Risg y Gweithlu. Dyma'r cyntaf o'i fath yn y DU ac mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol.
  • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus ac mae ysmygu wedi gostwng i'r lefelau isaf ers cadw cofnodion.
  • Cymru oedd rhan gyntaf y DU i newid y gyfraith i gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn 2015.
  • Mae presgripsiynau'n parhau i fod yn rhad ac am ddim yng Nghymru – cafodd y ffioedd eu dileu yn 2007 gan Lafur Cymru.