Mae’r pandemig hwn wedi gadael ei ôl arnom ni i gyd. Mae llawer ohonom wedi colli aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion i Covid-19, ac rydym yn gwybod bod eraill yn dal i gael trafferth ymdopi ag effaith barhaus y clefyd ar eu hiechyd a’u lles.
Rydym ni i gyd wedi brwydro yn erbyn y pandemig. Mae ein dyled yn fawr i arwyr y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yr heddlu, addysg, gweithwyr allweddol eraill a gwirfoddolwyr di-rif. Rydym wedi dibynnu arnyn nhw i gyd i’n helpu trwy’r argyfwng. Ar yr un pryd, rydym ni i gyd wedi chwarae ein rhan i gadw pethau i fynd, yn aml yn yr amodau mwyaf anodd. Rhaid i ni beidio â pheryglu’r gwaith caled a’r aberthau hynny.
Undod cymdeithasol yw’r hyn sydd wrth wraidd y mudiad Llafur. Ni fu hynny erioed mor amlwg yng Nghymru nag yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Rydym wedi sefyll gyda’n gilydd, ysgwydd wrth ysgwydd, gan weithio gyda’r gwledydd datganoledig eraill a Llywodraeth y Deyrnas Unedig pryd bynnag y gallem.
Dyma rai o’r camau penodol rydym wedi’u cymryd i ymladd yn erbyn y pandemig.
Dylai’r clod ar gyfer pob un ohonynt fynd i’r rhai sydd wedi gweithio mor galed i’w darparu, gyda chymorth eich Llywodraeth Lafur Cymru, i:
Mae pobl Cymru yn gofalu am ei gilydd; rydym yn helpu pobl sy’n cael anhawster, ac rydym yn deall cymaint yn fwy y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio. Mae Llafur Cymru yn rhannu’r un gwerthoedd ac mae eich Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos sut i roi’r gwerthoedd hynny ar waith. Nid yw’r un blaid arall yng Nghymru yn dod yn agos at ddangos y gellir ymddiried ynddi i wneud y peth iawn ar gyfer holl bobl Cymru.
Wrth i ni weithio gyda’n gilydd i symud ymlaen y tu hwnt i’r pandemig, mae Llafur Cymru yn awyddus i greu Cymru wahanol, gynaliadwy a chyffrous y dyfodol, wedi’i hadeiladu ar y gwerthoedd sy’n ein nodweddu fel cenedl.
Mae gan Lafur Cymru y profiad a’r weledigaeth i arwain adferiad Cymru o’r pandemig, ac rydym yn addo i bobl Cymru y byddwn yn buddsoddi yn ein GIG i’w roi ar y trywydd iawn, gan gynnwys ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru; byddwn yn talu cyflog byw go iawn i’n gweithwyr gofal; byddwn yn ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol mewn ysgolion i sicrhau nad yw ein plant yn cael eu gadael ar ôl; byddwn yn cynnig sicrwydd o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i’n pobl ifanc; byddwn yn rhoi terfyn ar ddefnyddio’r plastigion untro sy’n creu’r sbwriel mwyaf; byddwn yn rhoi mwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar ein strydoedd; byddwn yn adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd gan greu miloedd o swyddi newydd, yn ogystal â chymaint yn fwy.
Pan edrychaf yn ôl dros y misoedd anodd ers mis Mawrth y llynedd, credaf mai’r hyn a fydd yn aros yn hir yn fy nghof, yn ogystal â’r tristwch parhaus wrth feddwl am y bywydau a’r bywoliaethau a gollwyd ac a ddifrodwyd, yw’r miloedd ar filoedd o weithredoedd bach o garedigrwydd. Y profiad hwnnw o ofalu am ein gilydd yw’r hyn rydym eisiau adeiladu arno a’i ddatblygu i’r dyfodol.
Yn y maniffesto hwn, amlinellwn sut yn union y byddwn yn creu’r Gymru rydym ni i gyd yn dymuno ei chael. Fe’ch anogaf i’w ddarllen ac ymuno â ni wrth Symud Cymru Ymlaen.
Mark Drakeford
Arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog
Y rhaglen dal i fyny fwyaf yn ein GIG a'n hysgolion ac ysgol feddygol newydd ar gyfer Gogledd Cymru
Cynnig gwaith, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed
Mae'r cynnig hwn yn cynnwys y bobl ifanc fydd yn elwa o 125,000 o brentisiaethau newydd Llafur Cymru i roi llwybrau o ansawdd uchel i bobl o bob oedran i swyddi gwell.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal
Byddwn yn parhau i gapio ffioedd gofal dibreswyl a chynnal y terfyn cyfalaf ar £50,000, gan helpu pobl i gadw mwy o'u cynilion cyn talu am ofal nag unrhyw genedl arall yn y DU.
Dileu mwy o blastigau untro a chreu Coedwig Genedlaethol i Gymru
Mwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar ein strydoedd
Byddwn yn cynyddu'r gefnogaeth hon i ariannu 600 o swyddogion ond mae’r Torïaid yn bwriadu torri pob swydd.
Creu miloedd o swyddi mewn chwyldro adeiladu tai carbon isel