PENNOD 8.
Y Gymraeg, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Addewid Llafur Cymru i Gymru

Byddwn yn:

  1. Sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i bobl ifanc rhag dysgu chwarae offeryn.
  2. Ymgynghori ar ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth, wedi'i neilltuo i wella profiad ymwelwyr yng Nghymru ac i helpu'r economi leol.
  3. Byddwn yn creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y cymunedau hyn i gynorthwyo pobl ifanc i sicrhau cartrefi fforddiadwy. Byddwn hefyd yn gweithio i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg.
  4. Gan wthio ymlaen gyda'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, byddwn yn cyflwyno’r Bil Addysg Gymraeg Cymraeg 2050 i gryfhau a chynyddu ysgolion Cymraeg ledled Cymru a sicrhau bod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei gyflawni, gan ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  5. Ehangu ein darpariaeth blynyddoedd cynnar iaith Gymraeg gan gynnwys grwpiau meithrin, sesiynau blasu rhieni a byddwn yn annog pobl i ddewis siarad Cymraeg o fewn eu teuluoedd. Byddwn yn ehangu'r Rhaglen Drochi i Ddisgyblion i sicrhau bod gan bob newydd-ddyfodiad i'r iaith fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn helpu sicrhau bod gan rieni hefyd fynediad at ddysgu'r iaith. 
  6. Cyflwyno prosiect peilot a fydd yn cymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu gydag addysgu Cymraeg mewn ysgolion ar gyfer wythnosau olaf y tymor ysgol. Bydd hyn yn rhoi blas o ddysgu i'n pobl ifanc, gan eu hannog i ddilyn hyfforddiant athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg.
  1. Darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022 ar ei phen-blwydd yn gant oed.
  2. Buddsoddi yn ein theatrau a'n hamgueddfeydd, gan gynnwys ymrwymo i Theatr Clwyd, sefydlu'r Amgueddfa Bêl-droed a'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
  3. Adrodd stori lawn ein gwlad trwy sicrhau bod hanes pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei hadlewyrchu'n briodol ledled ein sectorau diwylliannol a threftadaeth, gan gynnwys yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol.
  4. Buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf, hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad. Byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau 4G.
  5. Gweithio gyda phartneriaid allweddol ym maes teledu, ffilm ac mewn addysg i sefydlu Corff Sgiliau Creadigol i feithrin rhagoriaeth Cymru yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc. Byddwn hefyd yn ystyried sefydlu Cronfa Ymchwil a Datblygu'r Diwydiant Creadigol fel bod Cymru bob amser ar flaen y gad o ran sgiliau a thechnoleg.
  6. Cefnogi'r cais i nodi tirwedd lechi Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau lleol i hyrwyddo'r cyfle diwylliannol ac economaidd hwn a byddwn yn datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Gogledd Cymru.

Mae ein hanthem genedlaethol yn sôn am Gymru fel gwlad y gân a barddoniaeth, ac rydym yn adnabyddus ledled y byd am ein creadigrwydd, ein cerddoriaeth a'n chwaraeon. Mae ein hiaith Gymraeg yn drysor cenedlaethol, sy'n adlewyrchu ein hanes hir. Yn 2019, enwyd Cymru ymhlith y 10 gwlad harddaf yn y byd gan y Rough Guide.

O ystyried y cyfoeth hwn o ddiwylliant, mae Llafur Cymru wastad wedi deall pwysigrwydd y celfyddydau, twristiaeth a chwaraeon i economi Cymru ac i'n bywyd cenedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i ddathlu hanes ac iaith Cymru yn ogystal â bod yn gymdeithas agored, gynhwysol sy’n adeiladu ar amrywiaeth o draddodiadau diwylliannol. Rydym am sicrhau bod ein treftadaeth ar gael i bawb, gan gynnwys ein llu o ymwelwyr. Credwn ei bod yn hawl i bob unigolyn yng Nghymru gymryd rhan a siapio bywyd diwylliannol ein gwlad a'n cymunedau.

Er gwaethaf yr heriau digyffelyb a achoswyd gan y pandemig, rydym yn edrych i'r dyfodol ac mae gennym sylfaen ragorol i ailadeiladu arni ein diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a diwylliannol: mae Sain Ffagan wedi'i henwi fel yr amgueddfa orau yn y DU; gwelodd partneriaid fel Bad Wolf a Netflix, Gymru yn creu cynyrchiadau sinema a theledu arobryn. Mae Cymru yn cynnal digwyddiadau o fri rhyngwladol fel Gŵyl y Gelli, Cwpan y Byd Criced ICC, Ras Cefnfor Volvo a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym hefyd yn enwog am ein digwyddiadau cartref fel Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Gomedi Aberystwyth a Gŵyl y Tŷ Dur.

Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn hyrwyddo ein llwyddiannau, yn harneisio creadigrwydd a gallu chwaraeon ein pobl ifanc, ac yn galluogi ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i gynnal eu lle priodol ar lwyfan y byd. 

Beth wnaethom mewn llywodraeth

  • Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud ymrwymiad digyffelyb i'r iaith Gymraeg trwy Cymraeg 2050, gyda'i huchelgais i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rydym wedi creu uned cynllunio iaith newydd o fewn Llywodraeth Cymru - Prosiect 2050.
  • Rydym wedi gosod y Gymraeg fel rhan ganolog o'n Strategaeth Ryngwladol ac wedi sicrhau ein bod yn ganolbwynt ym Mlwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Cynhenid UNESCO - gan atgyfnerthu ein statws fel gwlad flaenllaw ar gyfer adnewyddu iaith.
  • Rydym yn gweithredu ar ein strategaeth i wneud Llywodraeth Cymru yn sefydliad cwbl ddwyieithog erbyn 2050 a thrwy lansiad ‘Helo Blod,’ sef gwasanaeth cymorth a chyfieithu am ddim i fusnesau bach ledled Cymru. 
  • Trwy ein strategaeth dwristiaeth uchelgeisiol ‘Croeso i Gymru’ a’n diwydiant twristiaeth rhyfeddol, sicrhaodd Cymru nifer o wobrau gan gynnwys:

    National Geographic 25 taith orau yn y Byd.

    National Geographic 3 cyrchfan fyd-eang orau ar gyfer antur.

    Enillodd Croeso Cymru wobr arian am y marchnata cyrchfan gorau.

    Lonely Planet 5 taith gynaliadwy orau.
  • Rydym wedi cefnogi swyddi yn y diwydiannau creadigol trwy sefydlu Cymru Greadigol ac wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau creadigol allweddol ledled y wlad.
  • Rydym wedi sefydlu Treftadaeth Chwaraeon i ddathlu ac amddiffyn ein llwyddiant chwaraeon anhygoel. Fe wnaethom gryfhau Chwaraeon Cymru i hyrwyddo ein cyfleusterau a'n hathletwyr o'r radd flaenaf ymhellach, a darparu cefnogaeth i glybiau a gweithgareddau llawr gwlad.
  • Rydym wedi hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yn eang ac wedi creu'r Gronfa Iach ac Egnïol i annog teuluoedd a phobl ifanc i wneud y gorau o'n gwlad hynod.
  • Rydym wedi darparu'r gyllideb fwyaf mewn degawd i warchod, cefnogi a chynyddu mynediad i'n safleoedd treftadaeth o'r radd flaenaf. Mae hyn yn cynnwys £4m i ailddatblygu Castell Caerffili, dros £3.5m ar gyfer Castell Caernarfon, £1m ar gyfer Tretower Court a £1.2m ar gyfer Castell Coety.