PENNOD 9.
Ein Cartrefi, Cymunedau a Chynghorau
Addewid Llafur Cymru i Gymru
Byddwn yn:
- Cynnal ein cyllid i 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac ehangu eu nifer o 100 dros dymor y Senedd nesaf.
- Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i'w rhentu. Byddwn hefyd yn cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Byddwn yn parhau i wella tai presennol, helpu mynd i’r afael â thlodi tanwydd, creu swyddi y mae mawr eu hangen, cyfleoedd am swyddi a chadwyni cyflenwi.
- Adeiladu yn y ffordd iawn, gan ddefnyddio deunyddiau sydd â lefelau isel o garbon wedi'i ymgorffori ynddynt, fel pren, ac yn benodol pren o Gymru, gan greu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru. Bydd hyn yn mynd â ni ymhellach o ran ymdrin â thlodi tanwydd, creu swyddi cynaliadwy a darparu cyfleoedd ymchwil a hyfforddi.
- Helpu busnesau i weithio'n gydweithredol i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi a logisteg lleol i alluogi ein cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy ystwyth yn economaidd.
- Cadw’r cynnydd o 1% yn y Dreth Trafodiadau Tir a godir ar bryniannau ail gartrefi. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i archwilio a datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol - a allai gynnwys cyfraddau lleol i’r Dreth Trafodiadau Tir - i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.
- Gwella diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Ochr yn ochr â'r gwaith pwysig hwn, byddwn yn datblygu cronfa diogelwch tân ar gyfer adeiladau presennol.
- Deddfu i weithredu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â phrydles a sicrhau bod taliadau ystad am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau cyhoeddus yn cael eu talu mewn ffordd sy'n deg.
- Cryfhau ymreolaeth ac effeithiolrwydd llywodraeth leol i'w gwneud yn fwy llwyddiannus wrth ddarparu gwasanaethau. Ar draws y llywodraeth, byddwn yn ystyried lle y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.
- Lleihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol fel eu bod yn bwrw ymlaen â'u gwaith hanfodol bwysig, gan gynnwys newid y fframwaith perfformiad ar gyfer llywodraeth leol er mwyn galluogi gwell arloesi, tryloywder a pherchnogaeth leol.
- Sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ddulliau effeithiol ac atebol yn ddemocrataidd o ddatblygu economïau'r dyfodol gyda chynllunio trafnidiaeth ranbarthol a defnydd tir cydgysylltiedig.
- Byddwn yn datblygu cynllun cenedlaethol sy'n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sydd wedi'u prisio allan o'r farchnad rhentu preifat a'r rheini sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Byddwn yn sicrhau bod landlordiaid Rhentu Doeth Cymru yn ymateb yn gyflym i gwynion am hiliaeth a throseddau casineb ac yn cynnig cefnogaeth briodol.
- Datblygu cyfleusterau ailgylchu cymunedol yng nghanol trefi a hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff. Gan weithio mewn partneriaeth â Chynghorau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, byddwn yn creu mwy o fannau gwyrdd cymunedol yng nghanol trefi. Byddwn yn addasu mannau cyhoeddus i ddibenion digwyddiadau awyr agored, marchnadoedd, gwerthwyr stryd, parciau ’dros dro’, a pharciau bach.
Wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd da i fyw a gweithio ynddynt - yn hygyrch o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn lanach ac yn wyrddach, lle mae llesiant y gymuned gyfan o'r pwys mwyaf.
Rydym i gyd yn gwerthfawrogi, efallai nawr yn fwy nag erioed, yr hyn y mae'n ei olygu i gael to diogel dros ein pennau a rhywle i'w alw'n gartref. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol - cartrefi cadarn sy'n ddiogel o ran hinsawdd, rhai y mae teuluoedd eu heisiau ac yn gallu fforddio eu rhentu neu eu prynu.
Rhoddodd profiad y pandemig reswm inni ddiolch i’n cynghorwyr lleol, arweinwyr lleol, a gweithwyr cynghorau lleol am gynnal gwasanaethau allweddol. Mae'r gwasanaethau hyn yn rhan o'r glud sy'n clymu ein cymunedau gyda'i gilydd, a llywodraeth leol sy'n darparu’r modd i bobl benderfynu sut maen nhw am i'w pentrefi, trefi a dinasoedd gael eu rhedeg. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol a democratiaeth leol.
Yng Nghymru, mae gennym hefyd draddodiad hir o edrych ar ôl ein gilydd trwy wirfoddoli, trwy sefydliadau elusennol lleol, grwpiau ffydd a chymdeithasau cymunedol. Rydym yn deall yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl o bob cefndir yn gweithio gyda'i gilydd gyda pharch cyfartal. A byddwn bob amser yn rhoi cydweithredu o flaen cystadlu.
Mae'r pandemig wedi dod â llawer o newidiadau i'n ffyrdd o weithio, o deithio ac o dreulio ein hamser hamdden. Bydd Llafur Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae'r newidiadau hyn yn eu cynnig. Wrth i rôl mân-werthu a gwasanaethau yn ein trefi a'n dinasoedd newid, byddwn yn sicrhau eu bod yn dal i ffynnu fel canolfannau cyfnewid cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus, addysg, iechyd, hamdden, chwaraeon a diwylliant.
Beth wnaethom mewn llywodraeth
- Rydym wedi buddsoddi £2bn mewn tai dros y pum mlynedd diwethaf, wedi gweithredu Safon Ansawdd Tai Cymru a chychwyn y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Er gwaethaf y pandemig coronafeirws, rydym wedi cyflawni ein haddewid i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru.
- Mae ein Rhaglen Tai Arloesol pedair blynedd gwerth £140m wedi cyflymu cefnogaeth i ddyluniadau tai newydd ac arloesol i fodloni heriau gan gynnwys yr angen dybryd am dai, tlodi tanwydd, newid yn yr hinsawdd a newid demograffig - bydd yn darparu tua 1,900 o gartrefi.
- Bydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (2016) yn gwneud rhentu cartref yng Nghymru yn symlach ac yn decach a bydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yn golygu y bydd diogelwch deiliadaeth yng Nghymru yn fwy nag mewn mannau eraill yn y DU.
- Rydym wedi cartrefu'r nifer uchaf erioed o bobl ddigartref trwy gydol y pandemig.
- Er gwaethaf holl heriau Covid, cwblhaodd Llywodraeth Cymru'r broses ddeddfwriaethol i ddeddfu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan roi cynghorau ar sylfaen gref ar gyfer yr 21ain Ganrif a galluogi pobl dros 16 oed i bleidleisio yn eu hetholiadau lleol nesaf.
- Yn dilyn dyddiau tywyllaf cyni’r Torïaid, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn Llywodraeth Leol gyda setliadau olynol sydd wedi cadw gwasanaethau hanfodol.
- Mae ein buddsoddiad o £110m mewn Trawsnewid Trefi yn gweithio i ailddylunio ac adfywio canol ein trefi.
- Rydym wedi ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i helpu i wneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae'r swyddogion hyn yn darparu dull gwerthfawr o gyfathrebu rhwng pobl a'r heddlu, gan rymuso cymunedau lleol a helpu i ddatrys problemau ar lefel leol.
- Mae Llywodraeth Lafur Cymru ac awdurdodau lleol wedi datblygu eu capasiti rhanbarthol i gyflenwi prosiectau buddsoddi gyda Chydlynwyr Rhanbarthol, gan adeiladu partneriaethau ag awdurdodau lleol a sefydliadau rhanbarthol eraill.
- Datblygwyd fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir i roi blaenoriaeth i gynnal y defnydd o'r iaith Gymraeg mewn cymunedau.