PENNOD 10.
Ein Cenedl
Addewid Llafur Cymru i Gymru
Byddwn yn:
- Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym eisiau meithrin trafodaeth ddinesig genedlaethol yng Nghymru ar ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
- Hyrwyddo a chefnogi gwaith y Comisiwn Cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU. Byddwn yn gweithio ar draws y pedair gwlad, gyda Phlaid Lafur y DU a phleidiau eraill y DU a gyda Thŷ'r Arglwyddi i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygiad ffederal mwy trylwyr o'n cyfansoddiad a'n cysylltiadau rhyng-lywodraethol.
- Peidio â chymryd mwy mewn cyfraddau treth incwm Cymru oddi ar deuluoedd Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau, o leiaf. Byddwn yn ymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor i sicrhau system decach i bawb.
- Dilyn yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder, fel y nodir gan Gomisiwn Thomas.
- Herio Deddf Marchnad Fewnol y DU a'i hymosodiad ar ddatganoli a hyrwyddo hawliau'r Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Byddwn yn ymdrechu i atal Llywodraeth Dorïaidd y DU rhag defnyddio'r Ddeddf Marchnad Fewnol i ariannu ymyriadau nad ydynt yn cael eu cefnogi gan bobl Cymru. Byddwn yn mynnu bod Cymru yn cael ei chyfran deg o'r Gronfa Ffyniant a Rennir a'r Gronfa Codi'r Gwastad fel y'i gelwir gan Whitehall a bod yr arian a dderbyniwn yn cael ei wario yn unol â'n Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol.
- Dadlau dros gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â'r UE, gan gael gwared ar lawer o'r rhwystrau y mae obsesiwn y Torïaid â syniadau ffuglennol o sofraniaeth wedi'u codi. Byddwn yn ailddatgan ein perthynas gref gyda’r UE a’n llais yn Ewrop trwy gadw swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel. Rhoddir tasg i'r Cennad Ewropeaidd newydd i Gymru i sicrhau'r llais cryfaf posibl i Gymru yn yr UE.
- Gweithredu ein Cynllun Allforio newydd yn hyrwyddo Cymru yn y byd, gan atgyfnerthu ein rhwydwaith o swyddfeydd rhyngwladol a’n cysylltiadau presennol â rhanbarthau yn Ewrop a thu hwnt, gan gysylltu â diaspora Cymru i ddathlu cyfraniad ‘Cymru’ i’r byd.
- Sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru. Bydd yn ffurfio cymuned annibynnol o ymchwilwyr ac yn helpu i lunio ein strategaethau a'n rhaglenni rhyngwladol. Bydd yr Academi yn tynnu ar brofiad cenhadaeth heddwch yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen.
- Ymgyrchu i ddatganoli'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, sydd wedi'i thanariannu, i Gymru, a byddwn yn ei rheoli'n iawn.
- Sefydlu rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn i barhau am dymor cyfan y Senedd, gan alluogi myfyrwyr, dysgwyr, athrawon a phobl ifanc o Gymru i elwa ar gyfleoedd amhrisiadwy i astudio a chael profiad gwaith dramor, er gwaethaf fandaliaeth ddiwylliannol penderfyniad Llywodraeth y Torïaid i beidio â chefnogi rhaglen Erasmus yr UE. Byddwn hefyd yn ailfywiogi ein perthynas gefeillio ledled yr UE trwy Gronfa Gefeillio Pobl Ifanc. Bydd hyn yn ariannu teithiau i ddinasoedd a threfi gefeillio ledled yr UE i bobl ifanc o gymunedau difreintiedig.
- Datblygu set o Godau Cyfraith Cymru, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gyrchu a deall eu hawliau cyfreithiol. Byddai hyn ymhen amser yn cynnwys codau ar gyfer tai, gofal cymdeithasol, iechyd y cyhoedd ac ysgolion.
- Dadlau dros ddatganoli trethi’n glir a sefydlog i Gymru, sy'n addas at y diben ac nad yw bellach yn cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Dorïaidd y DU.
Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd hyderus, groesawgar a blaengar sy'n dathlu gwahanol ddiwylliannau ac yn credu'n angerddol mewn cydraddoldeb, tegwch a rhyngwladoliaeth. Rydym yn benderfynol o adeiladu a chryfhau cysylltiadau ledled y byd. Ni fu erioed amser pwysicach i’n gwlad gael y presenoldeb cryfaf bosibl ar lwyfan y byd.
Ni ellir datrys y materion sy'n ein hwynebu - Covid, newid yn yr hinsawdd, yr economi fyd-eang a pholareiddio gwleidyddol - ar ein pennau ein hunain. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n agosach nag erioed gyda’n ffrindiau a’n cynghreiriaid yn Ewrop a thu hwnt, wrth i ni ailddatgan ein hymrwymiadau i Ewrop, sicrhau PPE, cryfhau ein heconomi, a chefnogi cenhedloedd sy’n datblygu.
Gosododd refferendwm yr UE yn 2016 her inni yng Nghymru, sy’n dal i'n hwynebu heddiw, wrth i’r DU geisio ail-leoli ei hun ar lwyfan y byd ac yn yr economi fyd-eang. Mae gan y fargen Dorïaidd denau sydd wedi'i chamreoli'n wael, ac a wnaed gyda'r UE ar y funud olaf, ganlyniadau difrifol i'n heconomi sydd wedi'i difrodi gan bandemig, yn enwedig gweithgynhyrchu ac amaeth-fwyd.
Mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi bradychu Cymru trwy fethu ag anrhydeddu ei haddewid na fyddem geiniog yn waeth ein byd o adael yr UE. Mae gwir berygl dros y tymor hwy y bydd strategaeth gydlynol ac integredig Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ein holl ranbarthau, mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus, busnes a'r trydydd sector, yn cael ei rhoi o'r neilltu o blaid prosiectau tameidiog a ddewisir gan Weinidogion Torïaidd i gyflawni eu blaenoriaethau gwleidyddol.
Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU yn tanseilio ein pwerau i lunio deddfau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru ar gyfer bwyd diogel, amgylchedd glân, ac ymateb blaengar i'r argyfwng hinsawdd. Mae datganoli ei hun bellach dan fygythiad difrifol gan Lywodraeth Geidwadol heb fandad gan bobl Cymru, llywodraeth y mae ei harwyddair ‘cymryd rheolaeth yn ôl’ wedi dod yn alwad daer am ganoli pŵer yn Whitehall ac i ffwrdd oddi wrth y bobl.
Credwn fod y DU yn gymdeithas wirfoddol o bedair gwlad gyda sofraniaeth wedi'i rhannu ymhlith ei phedair deddfwrfa ddemocrataidd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Rydym yn cefnogi'r Comisiwn Cyfansoddiadol ledled y DU sy’n cael ei sefydlu gan y Blaid Lafur, i yrru newid y mae mawr ei angen i system lywodraethu'r DU sydd wedi'i thorri'n anadferadwy, a bydd yn parhau felly heb Lywodraeth Lafur y DU.
We believe the UK is a voluntary association of four nations with sovereignty shared among its four democratic legislatures in Wales, England, Scotland and Northern Ireland. We support the UK-wide Constitutional Commission being established by the Labour Party to drive forward much-needed change to a system of governance of the UK that is irreparably broken, and will remain so without a UK Labour Government.
Bydd Llafur Cymru yn ymladd dros newid cyfansoddiadol radical yn seiliedig ar egwyddorion ffederaliaeth, ac yn y Senedd nesaf byddwn yn arwain Cymru mewn sgwrs ddinesig genedlaethol am ein dyfodol cyfansoddiadol. Byddwn yn adeiladu ar waith Pwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol, dan gadeiryddiaeth Dawn Bowden Llafur Cymru, ac yn datblygu cynigion i wella cynrychiolaeth pobl Cymru yn eu Senedd.
Beth wnaethom mewn llywodraeth
- Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a chyflwyno cyfres o drethi datganoledig i Gymru. Ni yw'r unig wlad yn y DU i ddisodli treth stamp ar brynu tai gyda threth trafodiadau tir newydd gyda throthwy cychwynnol sy'n uwch na phris cyfartalog cartref.
- Cadw ein haddewid i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru.
- Rydym wedi dadlau’n gyson dros barch cydradd rhwng gwahanol lywodraethau a deddfwrfeydd yr undeb a thros Gymru sydd wedi’i datganoli’n ddyfnach.
- Arwain y gwrthwynebiad i ymgais Llywodraeth Dorïaidd y DU i wyrdroi setliad datganoli Cymru yn Neddf Marchnad Fewnol y DU, gan gynnwys gweithredu yn y llysoedd.
- Nodi yn ein dogfen bolisi ar y cyd â Phlaid Cymru, Diogelu Dyfodol Cymru - bolisi rhesymegol a chydlynol ar Brexit. Fe wnaethom ddadlau dros y berthynas economaidd agosaf bosibl â'r UE tra'n parchu canlyniad refferendwm yr UE.
- Buom yn gweithio'n agos gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol, y sector preifat, undebau, y sector gwirfoddol ac addysg uwch am fwy na thair blynedd i ddatblygu Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol i reoli cyllid olynol i'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
- Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Ryngwladol arloesol i roi llais i Gymru ar lwyfan y byd. Mae'r strategaeth yn nodi'n glir ein hymrwymiad i hyrwyddo diwydiannau allweddol a'n prifysgolion, gan daflunio Cymru fel cenedl fodern, hyderus, uwch-dechnolegol, greadigol a chynaliadwy.
- Rydym wedi lansio ein cynllun allforio a buddsoddi mewnol a thrwy ein swyddfeydd tramor, rydym wedi sicrhau buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau yng Nghymru.
- Rydym wedi penodi pedwar cennad er anrhydedd i hyrwyddo busnes Cymru dramor, gan gynnwys Japan ac UDA.
- Rydym wedi gweithio gyda rhanbarthau allweddol gan gynnwys Llydaw, Quebec, Fflandrys a Gwlad y Basg i hyrwyddo a chryfhau ein diwydiant seiberddiogelwch, ein diwydiant amgylcheddol ac ynni ac ar ddatblygu ieithoedd lleiafrifol.
- Ymladdodd Llafur Cymru dros hawl pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac ymestyn y bleidlais ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a'r Senedd iddynt hwy ac i bawb sy'n preswylio yng Nghymru, waeth beth fo'u cenedligrwydd.