PENNOD 7.
Arwain ar Gydraddoldebau

Addewid Llafur Cymru i Gymru

Byddwn yn:

  1. Gweithredu ac ariannu'r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a'r hiliaeth sylweddol sy'n wynebu cymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig.
  2. Cryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref. Ehangu'r ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw'n Dawel’. 
  3. Gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gwasanaeth cyfreithiol cydraddoldeb i ddarparu cefnogaeth ar arferion cyflogaeth annheg neu wahaniaethol. Byddwn yn edrych ar  ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â bylchau cyflog o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu a sicrhau bod cyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n derbyn cyllid cyhoeddus yn mynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog. Byddwn yn gweithredu targedau ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw fel bod pob penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn cael ei weld trwy lens rhyw.
  4. Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.
  5. Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cynrychioli'n briodol trwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a'n rhwydwaith amgueddfeydd. Byddwn yn mynd i'r afael yn llawn â'r argymhellion o'r Archwiliad Henebion ac Enwau Stryd ac oddi wrth y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.
  6. Creu Uned Gwahaniaethu ar Sail Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb i sicrhau sylfaen dystiolaeth gynhwysol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yn y llywodraeth. Byddwn yn ehangu ein rhaglen Mynediad i Sefyll mewn Etholiad i annog mwy o Fenywod, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl i sefyll mewn etholiad. Byddwn yn gweithredu argymhellion yr adroddiad Adlewyrchu Cymru mewn Rhedeg Cymru: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru (2020-2023). 
  1. Cefnogi Pride Cymru trwy ddod yn noddwr ffurfiol a byddwn yn creu Cronfa Balchder ledled Cymru i gefnogi digwyddiadau ac ymgyrchoedd ledled y wlad. Byddwn hefyd yn penodi Cydlynydd Balchder ledled Cymru i gefnogi ymgyrchoedd a gweithgareddau.
  2. Defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i amddiffyn ein pobl ifanc trwy wahardd  pob agwedd ar therapi trosi LGBTQ+ sydd o fewn ein pwerau a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol. Byddwn hefyd yn gweithio i ddatganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Draws.
  3. Gweithio gyda sefydliadau fel Google, Facebook, a Twitter i fynd i'r afael â throseddau casineb a chamwybodaeth, yn enwedig er mwyn amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag troseddau casineb a bwlio.
  4. Gwreiddio urddas misglwyf mewn ysgolion ac ehangu ein darpariaeth misglwyf am ddim mewn cymunedau a'r sector preifat.
  5. Gwneud ein system drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn fwy hygyrch i bobl anabl, yn unol â’n hymrwymiad i fodel cymdeithasol o anabledd.
  6. Parhau â'n partneriaeth gref â sefydliadau gwirfoddol ar draws ystod ein cyfrifoldebau, er enghraifft, trwy ein rhwydwaith Undebau Credyd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ariannol yn ein cymunedau.

Y dyfodol gorau y gall Cymru ei gael yw’r un mwyaf cyfartal, rhydd a theg.

Trwy gydol ein hanes, mae'r Blaid Lafur wedi sefyll dros hawliau a chydnabod y rhai sy'n agored i niwed ac o dan anfantais neu sy'n wynebu stigma a gwahaniaethu. Ni yw plaid cydraddoldebau a hawliau dynol ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ryddid cydwybod a rhyddid cred.

Mae gwreiddiau llawer o'r heriau, gan gynnwys hiliaeth, sy'n wynebu ein cymunedau lleiafrifol i’w cael mewn strwythurau pŵer a chysylltiadau cymdeithasol sydd wedi hen fynd heibio ers amser maith, ond eto mae dal angen inni eu herio. Mae anghydraddoldeb rhywiol yn dal i fod yn annhegwch sefydlog ac mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i fod yn rhy gyffredin o lawer. Rydym eisiau gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn dioddef anabledd oherwydd rhwystrau a grëir gan anghydraddoldeb cymdeithasol ac nid gan eu nam neu eu hanghenion penodol. Rydym wedi dod yn bell ar y daith dros gydraddoldeb LGBTQ+, ond hyd nes y gall pawb fod yn nhw eu hunain, gan fyw yn rhydd o ofn, mae gennym waith i'w wneud o hyd.

Mae Llafur Cymru yn cydnabod ein dynoliaeth gyffredin ac yn dathlu amrywiaeth, a gwahaniaeth. Po fwyaf y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, y mwyaf tebygol y byddwn o gyflawni newid cadarnhaol. Dyna pam rydym yn mynd ati i gefnogi rhwydweithiau, ymgyrchoedd a sefydliadau blaengar sy'n gweithio tuag at gymdeithas gyfartal. 

Beth wnaethom mewn llywodraeth 

  • Er mwyn mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol, sefydlodd Llywodraeth Lafur Cymru linellau cymorth Byw Heb Ofn a Dyn ar gyfer menywod a dynion sy’n dioddef trais a cham-drin domestig.
  • Rydym wedi lansio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, wedi'i gyd-lunio â mentoriaid cymunedol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau cymunedol. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £1.2m i fynd i'r afael â throseddau casineb ac i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb.
  • Creodd a chyflwynodd Llywodraeth Lafur Cymru a chlinigwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Adnodd Asesu Risg Covid-19 ar gyfer y Gweithlu Cymru Gyfan, y cyntaf yn y DU. Helpodd hyn i amddiffyn iechyd gweithwyr y GIG, gofal cymdeithasol, addysg, a staff gweithwyr allweddol yng Nghymru ledled y pandemig.
  • Sefydlu'r Gronfa Mynediad at Sefyll mewn Etholiad i gefnogi ac annog pobl anabl i sefyll mewn etholiad ar gyfer y Senedd a Llywodraeth Leol.
  • Cyflwyno Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl ac ymrwymo bron i £40m i roi cymorth cyflogaeth i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan Covid.
  • Mae Llafur Cymru wedi ymgorffori Addysg Perthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd gan sicrhau addysg gynhwysol LGBTQ+ i'n plant a'n pobl ifanc.  Hefyd, sefydlu Gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd arloesol i gefnogi pobl Draws a chomisiynwyd cynllun gweithredu LGBTQ+ cynhwysfawr mewn partneriaeth â Stonewall Cymru.
  • Cael gwared ar y ‘gwaharddiad gwaed hoyw’ a dod y genedl gyntaf yn y DU i sicrhau bod PReP ar gael ar y GIG. Fe wnaethom gefnogi digwyddiadau Balchder ledled Cymru yn ogystal â noddi Pride Cymru.
  • Ymrwymo Cymru i fod yn Genedl Noddfa a darparu dros £1m i'r Rhaglen Hawliau Lloches gan gynnig eiriolaeth a chefnogaeth.
  • Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i hyrwyddo'r achos dros ymgorffori Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru a chyflwyno Deddf Hawliau Dynol i Gymru.
  • Y Llywodraeth Lafur Cymru hon a ddarparodd gynhyrchion misglwyf am ddim ar draws ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a chymunedau.