Pennod 4.
Adeiladu Economi Cryfach a Gwyrddach

Addewid Llafur Cymru i Gymru

Byddwn yn:

  1. Buddsoddi dros y tymor hir yn y seilwaith gwyrdd a modern mae Cymru ei angen i ffynnu. Byddwn yn lansio Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cymru 10 mlynedd newydd ar gyfer economi di-garbon; cyflenwi ein rhaglen Y Cymoedd Technoleg 10-mlynedd gwerth £100m a chwblhau prosiectau mawr gan gynnwys £1bn i ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, sef rhaglen eithriadol o waith i ddatgloi potensial cyflogaeth yn yr ardal. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyfran deg o seilwaith rheilffyrdd hanfodol a buddsoddiad Ymchwil a Datblygu i Gymru.
  2. Bwrw ymlaen â'n Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Cymru ac uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu. Byddwn yn cefnogi arloesedd trwy ein Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch newydd yng Ngogledd Cymru a'n Strategaeth Gweithgynhyrchu newydd i helpu meysydd allweddol o'n heconomi, fel awyrofod a dur, i arloesi, tyfu a lleihau eu hôl troed carbon.
  3. Creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Byddwn yn codi'r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau trefol newydd. Byddwn yn deddfu i foderneiddio'r sector tacsis a cherbydau preifat a mynd i'r afael â phroblemau croesffiniol. 
  4. Gweithredu ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru i ddatblygu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a fforddiadwy, o ansawdd uchel. Byddwn yn rhoi pwerau newydd i Drafnidiaeth i Gymru i integreiddio rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn well a’u rheoleiddio er mwyn iddynt fodloni Safonau’r Gymraeg. Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd. Byddwn yn gweithio tuag at ein targed newydd o 45% o deithiau trwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040, gan osod nodau mwy estynedig lle gallwn.
  5. Bwrw ymlaen ag adroddiad Comisiwn Burns ar gyfer Casnewydd, gan bwyso ar Lywodraeth y DU i'n helpu i wireddu ei weledigaeth gyffrous ar gyfer integreiddio trafnidiaeth a lleddfu tagfeydd yr M4. Byddwn yn datblygu cronfa prif ffyrdd newydd i wella atyniad a bioamrywiaeth ardaloedd ochr yn ochr â phrif lwybrau trafnidiaeth i Gymru.
  6. Cyflwyno £800m o gerbydau newydd ar gyfer ein rheilffyrdd a sicrhau bod 95% o deithiau trên ar drenau newydd erbyn 2024. Byddwn yn datblygu cynlluniau ar gyfer metro yng Ngogledd Cymru a Bae Abertawe. Byddwn yn archwilio cyfleoedd ar gyfer estyniadau aml-foddol i'n rhwydweithiau Metro, fel Coridor y Gogledd Orllewin ac ar draws cymoedd De Cymru. Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru. Byddwn yn datblygu'r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffordd Fyd-eang gyffrous yn Nyffryn Dulais i hyrwyddo arloesedd rheilffyrdd. Byddwn yn archwilio opsiynau i weithwyr gymryd cyfran berchnogol yn ein hasedau trafnidiaeth cenedlaethol.
  1. Buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau a chwblhau prosiectau seilwaith bysiau newydd mawr, gan gynnwys ailddyrannu gofod ar y ffyrdd i gefnogi lonydd bysiau pwrpasol a llwybrau cludo cyflym newydd sy'n gwneud teithio ar fws yn haws. Byddwn yn dysgu oddi wrth beilotiaid Fflecsi diweddar i ehangu teithio hyblyg sy'n ymateb i'r galw ledled Cymru. Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio am ddim i bobl hŷn ac yn edrych ar sut y gall prisiau teg annog teithio integredig, gan gynnwys archwilio estyniadau i FyNgherdynTeithio ar gyfer teithio cost is i bobl ifanc. Byddwn yn gweithio i wneud y fflyd cerbydau bws a thacsi yn allyriadau sero erbyn 2028.
  2. Gweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo cerdded a beicio wrth i ni wneud Cymru yn genedl teithio llesol. Byddwn yn cefnogi  mentrau cymdeithasol newydd arloesol fel caffis atgyweirio cynnal a chadw beiciau a chynlluniau ailgylchu beiciau. Byddwn yn datblygu Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol ac yn gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo Teithio Llesol a Diogelwch ar y Ffyrdd.
  3. Gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl a gwahardd parcio ar y palmant, ble bynnag y bo’n bosibl.
  4. Adeiladu dyfodol cynaliadwy i'n porthladdoedd allweddol a Maes Awyr Caerdydd.
  5. Sefydlu bwrdd perfformiad trafnidiaeth newydd i ddatblygu'r system cludo teithwyr integredig ac effeithlon yr ydym ei eisiau yng Nghymru. Byddwn yn moderneiddio grantiau trafnidiaeth. Byddwn yn buddsoddi mewn opsiynau teithio sy'n annog trafnidiaeth gyhoeddus ac yn cefnogi cerdded a beicio - opsiynau sy'n garbon-isel neu'n ddi-garbon ac yn lliniaru llygredd aer.
  6. Cefnogi arloesedd mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd, gyda ffocws penodol ar gefnogi marchnata technolegau newydd sydd angen cymorth ychwanegol. Fel rhan o bolisi ynni cytbwys, byddwn yn datblygu Her Morlyn Llanw ac yn cefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang o dechnolegau llanw sy'n dod i'r amlwg

Dros y pedwar degawd diwethaf, mae Cymru wedi bod ar gyrion mwyaf garw dad-ddiwydiannu a chydag etifeddiaeth o gyflog isel, diffyg sgiliau, anghydraddoldebau iechyd a thlodi. Mae datganoli wedi rhoi cyfle inni ailadeiladu ein heconomi a datblygu seilwaith modern a chynhyrchiol, a all weithredu fel peiriant twf cynhwysol a chynaliadwy.

Mae'r pandemig wedi ysbeilio ein heconomi - mae gormod o fusnesau a swyddi da wedi'u colli dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhaid i ni nawr ailosod y cloc a chreu economi newydd, decach a gwyrddach sy'n gweithio i bawb, nid i’r ychydig yn unig.

Gyda seilweithiau digidol, economaidd a thrafnidiaeth newydd, byddwn yn ailadeiladu ac yn ailfywiogi ein cymunedau lleol, canol ein trefi, a'n heconomi mewn ffordd fywiog a chynhwysol i ddiogelu swyddi presennol a chreu cyfleoedd gwaith newydd fel y gall Cymru ffynnu unwaith eto.

Bydd ein heconomi wyrddach newydd wedi'i seilio ar ein gwerthoedd o newid blaengar - gwerthoedd cydweithredu nid cystadleuaeth; gofalu am ein gilydd, nid cael ein rhannu yn erbyn ein gilydd.

Byddwn yn symud ymlaen gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus, mewn busnes ac yn yr undebau llafur. A byddwn yn adeiladu ein seilwaith economaidd ar gyfer diwydiannau cartref cynaliadwy tymor hir a'r swyddi gwerth chweil a ddaw yn eu sgil.



Beth wnaethom mewn llywodraeth

  • Cynlluniodd ein Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer y dyfodol trwy greu'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymru, cyhoeddi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a dod ag awdurdodau lleol ynghyd mewn strwythurau cynllunio rhanbarthol newydd.
  • Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi camu i'r adwy lle mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi methu, trwy fuddsoddi £200m i helpu 750,000 o adeiladau i gael band eang ffibr cyflym.  Sefydlu Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i hyrwyddo arloesedd.
  • Mae trafnidiaeth gynaliadwy, integredig a hygyrch yn hanfodol i economi fodern ac rydym wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a strategaeth drafnidiaeth newydd fentrus i ostwng allyriadau hefyd. 
  • Wedi dod â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Rydym yn buddsoddi £750m i uwchraddio a thrydaneiddio llinellau Cymoedd De Cymru i ddarparu gwell seilwaith, amseroedd teithio a mwy o drenau.
  • Cyflwyno FyNgherdynTeithio i roi teithio gostyngol i bob person 16 i 21 oed.
  • Rydym yn rhoi mwy na £80m o arian ychwanegol i amddiffyn gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig ac ymrwymwyd buddsoddiadau mawr mewn gorsafoedd bysiau newydd ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Merthyr Tudful a Shotton.
  • Rydym yn gwneud y buddsoddiad uchaf erioed o £75m mewn teithio llesol i wella cyfleoedd cerdded a beicio.
  • Helpu pobl i symud i gerbydau trydan gyda buddsoddiad newydd mewn seilwaith gwefru a strategaeth gwefru cerbydau trydan newydd.
  • Rydym wedi buddsoddi mwy na £110m mewn seilwaith ynni adnewyddadwy, gan gefnogi 11 prosiect ynni morol, gan gynnwys y parth arddangos ffrwd lanw oddi ar arfordir Ynys Môn.