PENNOD 3.
Swyddi a Sgiliau

Addewid Llafur Cymru i Gymru

Byddwn yn:

  1. Cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan Brexit a'r pandemig trwy ddatblygu Gwarant i Bobl Ifanc newydd, gan roi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed.
  2. Creu 125,000 o brentisiaethau bob-oed yn ystod tymor nesaf y Senedd. Byddwn yn gweithio gydag undebau a chyflogwyr i ehangu'r defnydd o brentisiaethau gradd a phrentisiaethau a rennir i roi llwybrau mwy hyblyg i bobl i hyfforddiant a gyrfa.
  3. Bwrw ymlaen â'n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi ar gyfer Cymru a hyrwyddo sgiliau o ansawdd da yn y meysydd lle rydym ynn gwybod y bydd yr economi'n tyfu. Byddwn yn cryfhau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i sicrhau bod y cyflenwad yn diwallu anghenion economaidd cyfnewidiol Cymru.
  4. Adeiladu system wirioneddol o ddysgu gydol oes i bawb sydd angen help i ddod o hyd i waith ac ailhyfforddi, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig. Byddwn yn ehangu Cyfrifon Dysgu Personol i ganiatáu i bobl astudio yn hyblyg a chael sgiliau newydd.
  5. Rhoi, mewn cyfraith, ein dull partneriaeth gymdeithasol llwyddiannus gyda chyflogwyr ac undebau, i wella hawliau gweithwyr, cynyddu ansawdd swyddi a gwasanaethau cyhoeddus, a chryfhau'r economi.
  6. Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn gwaith a brofir gan gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bwrw ymlaen ag argymhellion yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Byddwn yn datblygu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ac yn gwneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg wirioneddol. Byddwn yn defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio. 
  7. Cryfhau ein Contract Economaidd fel bod twf cynhwysol, gwaith teg, datgarboneiddio a gwell iechyd meddwl yn y gwaith wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwn yn cefnogi cynigion TUC Cymru i aelodau undeb ddod yn Gynrychiolwyr Gwyrdd yn y gweithle. Er mwyn helpu i uwchsgilio ein gweithlu, byddwn yn adeiladu ar lwyddiant Cronfa Ddysgu Undeb Cymru, a gafodd ei dileu yn Lloegr gan y Torïaid. Gan ddefnyddio grym y pwrs cyhoeddus, byddwn yn defnyddio pob lifer sydd gennym i ddatblygu’r agenda gwaith teg yng Nghymru.
  1. Defnyddio ein Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru £500m i gefnogi adferiad economaidd ac ehangu cronfeydd cyfalaf tymor hir Banc Datblygu Cymru i ddarparu benthyca tymor hir i fentrau bach a chanolig eu maint, entrepreneuriaid a chwmnïau newydd. Byddwn yn cynyddu'r defnydd o addewidion ecwiti mewn cymorth busnes. Byddwn yn sicrhau y bydd Banc Cymunedol i Gymru yn cael ei greu, gan gefnogi ei dwf fel bod ganddo 30 o ganghennau ledled Cymru dros y degawd nesaf.
  2. Adeiladu ar ein rhaglen Gwell Swyddi yn Nes at Adref a'n gwaith economi sylfaenol i hybu twf economïau lleol. Byddwn yn datblygu Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol i gefnogi busnesau lleol. Byddwn yn darparu mwy o gefnogaeth i bryniant gweithwyr ac yn ceisio dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr gyda'r sector cydweithredol.
  3. Gyda phartneriaid lleol, byddwn yn datblygu uwchgynlluniau ar gyfer trefi a strydoedd mawr i gydlynu a chanolbwyntio cyfleoedd a gwasanaethau economaidd, fel bod mwy o bobl yn gweithio ac yn treulio amser yn y canolfannau bywiog hyn. Byddwn yn grymuso cymunedau i fod â mwy o ran mewn adfywio lleol.
  4. Galluogi canol ein trefi i ddod yn fwy ystwyth yn economaidd, a byddwn yn helpu busnesau i weithio'n gydweithredol, cynyddu eu cynnig digidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi lleol. Byddwn yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu cofrestr o adeiladau gwag ac yn helpu busnesau bach i symud i siopau gwag.
  5. Newid y ffordd rydym yn gweithio; yn hytrach na chymudo i'r swyddfa bob dydd byddwn yn ceisio cael targed o 30% ar gyfer gweithio o bell i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Byddwn yn datblygu hybiau gweithio o bell newydd mewn cymunedau, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a chreu cyfleoedd newydd yng nghanol trefi. 

Bu'r pum mlynedd diwethaf yn rhai o'r rhai mwyaf aflonyddgar y mae ein heconomi erioed wedi'u hwynebu - mae cyni, Brexit a choronafeirws i gyd wedi cael effaith enfawr. Bydd Brexit yn ail-lunio swyddi a diwydiannau cyfan yn sylweddol, tra bod y pandemig wedi newid union natur y gwaith ei hun. Mae mynd i’r afael ag aflonyddwch heddiw wrth baratoi ar gyfer economi yfory, mewn ffordd gynaliadwy a chymdeithasol gyfiawn, yn un o dasgau pwysicaf ein cenhedlaeth.

Byddwn yn adeiladu economi ôl-bandemig, ôl-Brexit sy'n mynd i'r afael â'r heriau strwythurol sylfaenol yn ein heconomi - yr argyfwng hinsawdd; effaith pedwar degawd o ddad-ddiwydiannu; etifeddiaeth tlodi a'r angen am obaith newydd, sgiliau newydd a chyfleoedd newydd. Hyn oll, yn erbyn cefndir degawd coll o gyni Torïaidd y DU sydd wedi lleihau'r cyllid sydd ar gael i fuddsoddi mewn sgiliau, hyfforddiant a seilwaith i gefnogi economi gynaliadwy fywiog.

Ni fydd y dyfodol yr ydym ei eisiau i'w gael yn yr economi treth isel, gyda'r rheoleiddio lleiaf posibl ac amddiffyniad bas y mae'r Torïaid yn credu ynddo. Byddwn yn adeiladu'r dyfodol ar werthoedd ein mudiad Llafur a record profedig ein Llywodraeth Lafur Cymru - byddwn yn rhoi cydweithredu o flaen cystadleuaeth; byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur a busnes i sicrhau gwaith cadarn, ystyrlon a gaiff ei wobrwyo'n deg.

Bydd Llywodraeth Lafur nesaf Cymru yn creu swyddi diogel a chynaledig wrth i ni ddatgarboneiddio ein heconomi. Byddwn yn cefnogi busnesau Cymru i ddod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a chreu swyddi newydd. Byddwn yn buddsoddi yn niwydiannau gwyrdd cynaliadwy yfory - tai arloesol, ynni adnewyddadwy, a thechnolegau digidol newydd - a byddwn yn cyflawni ein dyfodol economaidd gyda thegwch a chydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.  

Beth wnaethom mewn llywodraeth

  • Yn ystod y pandemig, darparu'r cymorth economaidd mwyaf hael i gwmnïau a gweithwyr, o unrhyw le yn y DU, gwerth dros £2bn. Mae ein Cronfa Gwydnwch Economaidd i Gymru yn unig wedi amddiffyn mwy na 149,000 o swyddi ac mae'r £100m o gyllid benthyciadau a roddwyd trwy Fanc Datblygu Cymru wedi diogelu dros 16,000 yn fwy. Cefnogodd ein gwasanaeth Busnes Cymru 750 o entrepreneuriaid i gychwyn busnes yn ystod y pandemig.
  • Datblygu Cynllun Ailadeiladu Covid mentrus, wedi'i ategu gan gronfa gwerth £320m, a chyflwyno Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi newydd, gan nodi camau i adeiladu economi decach a gwyrddach.
  • Rydym yn buddsoddi £40m mewn Ymrwymiad Covid newydd - bydd pawb dros 16 oed sydd wedi colli eu swydd yn cael y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fynd i mewn i waith, hyfforddi, neu gychwyn eu busnes eu hunain.
  • Sefydlu tri Grŵp Ymateb Cyflogaeth Rhanbarthol newydd i helpu i gydlynu'r cyngor a'r cymorth cyflogaeth i'r rhai a gollodd eu swyddi yn ystod y pandemig.
  • Rydym wedi creu 100,000 o brentisiaethau bob oed o ansawdd uchel, ac wedi treialu Cyfrifon Dysgu Personol newydd i helpu pobl i ennill sgiliau newydd.
  • Dros y degawd diwethaf, rydym wedi helpu mwy na 19,000 o bobl ifanc i gael mynediad at waith o ansawdd da trwy Dwf Swyddi Cymru.
  • Sefydlu’r Comisiwn Gwaith Teg i sicrhau triniaeth deg yn y gwaith a chyflwynwyd y Cod Moesegol ar Gaffael mewn Cadwyni Cyflenwi i amddiffyn hawliau gweithwyr a mynd i’r afael â chosbrestru.
  • Diddymu deddfwriaeth gwrth-undebau atchweliadol y Torïaid a deddfu dyletswydd economaidd-gymdeithasol y Ddeddf Cydraddoldeb.
  • Datblygu Contract Economaidd newydd. Am y tro cyntaf mae gwaith teg, sgiliau uwch a lleihau ein hôl troed carbon wrth wraidd polisi economaidd.
  • Lansiwyd dull newydd arloesol o ran yr economi bob dydd, gan brofi syniadau newydd trwy Gronfa Economi Sylfaenol gwerth £4.5m i hybu twf cwmnïau â sail leol.
  • Sefydlu Banc Datblygu cyntaf erioed y DU yng Nghymru gyda mwy na £1bn o gyllid i gefnogi’r economi ehangach yn ogystal â busnesau bach a chanolig eu maint.
  • Torri'r dreth a delir gan bob busnes bach yng Nghymru gyda rhyddhad ardrethi parhaol.
  • Cefnogi ein diwydiannau allweddol, fel dur ac awyrofod, wrth iddynt wynebu heriau Covid a Brexit, gan gefnogi Canolfan Gweithgynhyrchu ac Ymchwil Uwch newydd gwerth £20m yng Ngogledd Cymru.
  • Rydym wedi datblygu dull Trawsnewid Trefi newydd gwerth £110m i roi bywyd newydd i ganol ein trefi. Rydym wedi ymrwymo cyllid o £700m i fargeinion dinas a thwf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Bae Abertawe, Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru.
  • Ariannu penodi hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl ledled Cymru i helpu cyflogwyr i recriwtio mwy o bobl anabl.