Pennod 2.
Gofal Cymdeithasol
Addewid Llafur Cymru i Gymru
Byddwn yn:
- Creu gweithlu cryfach gyda chyflog gwell - dyma'r allwedd i ddarparu gwell gwasanaethau. Byddwn yn sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael y cyflog byw gwirioneddol yn ystod tymor y Senedd nesaf.
- Gweithio gyda'n partneriaid i uwchsgilio'r gweithlu ac adeiladu prentisiaethau mewn gofal a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn creu Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i Gymru i ddod ag arweinyddiaeth genedlaethol a mwy o barch i'r proffesiwn gofal.
- Parhau i gapio costau gofal cymdeithasol dibreswyl ar yr uchafswm cyfredol o £100 yr wythnos. Bydd Llafur Cymru yn gwarantu na fydd hyn yn codi dros oes tymor nesaf y Senedd. Bydd y mwyafrif o ddinasyddion yn talu llawer llai na hyn neu ddim byd o gwbl os ydyn nhw ar incwm isel.
- Cynnal y terfyn cyfalaf ar £50,000. Dyma'r swm mwyaf hael yn y DU ac mae'n golygu y gall pobl yng Nghymru gadw mwy o'u cynilion a'u cyfalaf eu hunain cyn iddynt dalu am ofal.
- Lansio Fframwaith Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i osod comisiynu teg, amodau gweithlu teg, a marchnad ofal fwy cytbwys rhwng darparwyr cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. Byddwn yn deddfu i gryfhau partneriaethau i ddarparu gwell gofal ac iechyd integredig, gan roi sylw i'r ymatebion i'n Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Bydd y Fframwaith yn dyfnhau cydweithredu â'r sector gwirfoddol ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer Cymru ôl-Covid.
- Mynd ar drywydd datrysiad cynaliadwy yn y DU fel bod gofal yn rhad ac am ddim i bawb ar bwynt angen. Os bydd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn torri ei haddewid eto ac yn methu cyflwyno cynllun a ariennir yn llawn yn senedd bresennol y DU, byddwn yn ymgynghori ar ddatrysiad posibl i Gymru yn unig i ddiwallu ein hanghenion gofal tymor hir.
- Cryfhau cefnogaeth i ofalwyr trwy gronfa caledi Covid gwerth £1m yn 2021 ac ariannu cynllun seibiant byr newydd o £3m i helpu gofalwyr yn eu gweithgareddau hanfodol.
- Buddsoddi £40m mewn gofal integredig i bobl hŷn ag anghenion cymhleth, yn enwedig gofal dementia, gan ddatblygu mwy na 50 o hybiau cymunedol lleol i gydleoli iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a gwasanaethau eraill. Byddwn yn cefnogi datblygiad tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal, fel tai Gofal Ychwanegol. Byddwn yn ariannu swydd bwrpasol ym mhob awdurdod lleol i hyrwyddo gwaith i wneud Cymru yn genedl sy'n gyfeillgar i bobl hŷn.
- Gweithio gyda'r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd i wella'r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol.
- Cyflwyno bwndeli babanod ar gyfer rhieni newydd i fwy o deuluoedd. Byddwn hefyd yn ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant. Byddwn yn parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau'n Deg blaenllaw ar gyfer plant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig.
- Helpu i atal teuluoedd rhag chwalu trwy ariannu gwasanaethau eirioli ar gyfer rhieni y mae eu plant mewn perygl o ddod i ofal. A byddwn yn buddsoddi £20m i ddarparu cefnogaeth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion gofal. Byddwn yn ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio gwasanaethau cyfredol i blant sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal. Byddwn yn parhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain.
- Dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor nesaf y Senedd. Byddwn yn helpu i ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i ddod â phlant ag anghenion cymhleth adref o ofal y tu allan i Gymru. Byddwn yn parhau i gefnogi ein cynllun Maethu Cymru cenedlaethol. Byddwn yn cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’ i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal oddi cartref yn cael y gofal gorau posibl.
Mae ein system gofal wedi dioddef yn fawr oherwydd y pandemig. Yn yr un modd â’r GIG, mae wedi tynnu sylw at ddewrder ac ymroddiad anhygoel y gweithlu enfawr ac amrywiol yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae'r galwadau ar ein gwasanaethau gofal yn ddi-ildio. Mae llawer o waith i'w wneud i amddiffyn, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau gofal fel eu bod yn parhau i fod yn effeithiol y tu hwnt i'r pandemig.
Rydym wedi dysgu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf, a byddwn yn defnyddio’r profiad i drawsnewid ein gwasanaethau gofal presennol yn system hyblyg, ymatebol a mwy integredig i fodloni heriau cymdeithas sy'n heneiddio. Bydd ein gwasanaethau gofal yn helpu pobl i fwynhau bywydau ystyrlon ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach a lle nad yw hynny'n bosibl, bydd ganddynt ddewis o ofal urddasol, tosturiol a chadarnhaol.
Byddwn yn parhau i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd pan fydd adfyd yn bygwth gallu rhieni i ymdopi ac i blant ffynnu. Byddwn yn parhau i gefnogi'r model cymdeithasol o anabledd a byddwn yn mynd i'r afael â'r rhwystrau i fyw'n annibynnol i blant ac oedolion anabl, gan sicrhau dewis ac ymgysylltiad yn y cyfleoedd bywyd yr ydym i gyd yn dyheu amdanynt. Rhaid i'n gwasanaethau gofal gael eu datblygu gan a chyda'r bobl hynny sy'n eu defnyddio.
Mae'r gwasanaeth gofal yr ydym ei eisiau ar gyfer Cymru yn un lle mae'r gweithlu yn allweddol i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed - p'un a yw hynny gartref neu mewn cartref gofal. Credwn fod gofal cymdeithasol yn alwedigaeth sy'n haeddu'r un gydnabyddiaeth a gwobr ag y mae proffesiynau gwasanaeth cyhoeddus allweddol eraill yn eu mwynhau.
Rhaid i ddarparwyr gofal cymdeithasol ac iechyd weithio'n agos gyda'i gilydd a bod yn bartneriaid cyfartal wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu hardal leol. Nid yw gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim ar bwynt angen - yn wahanol i'r GIG - ond mae'n destun prawf modd (ac nid yw Llywodraeth Dorïaidd bresennol y DU yn dangos unrhyw arwydd o newid hynny). Bydd Llywodraeth Lafur nesaf Cymru yn helpu'r rhai sydd leiaf abl i dalu am y gofal sydd ei angen arnynt.
Beth wnaethom mewn llywodraeth
- Mae ein gwariant cyfun ar iechyd a gofal cymdeithasol y pen wedi tyfu'n gyflymach yng Nghymru ers datganoli nag yn Lloegr a'r Alban, diolch i Lafur Cymru.
- Rydym wedi gweithredu ar ein polisi blaenllaw o ofal plant rhad ac am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio - y cynnig mwyaf hael yn y DU i rieni sy'n gweithio. Mae ein buddsoddiad yn natblygiad 115 o gyfleusterau gofal plant newydd neu rai wedi'u hailddatblygu wedi helpu i ehangu'r sector gofal plant, gan greu swyddi o safon.
- Rydym wedi hyrwyddo hawliau plant yn ein holl bolisïau gan newid y gyfraith i helpu i sicrhau bod cosb gorfforol i blant yn dod i ben. Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn Dechrau'n Deg ar gyfer plant iau tra bod gwasanaethau yn Lloegr wedi'u torri.
- Rydym wedi codi'r terfyn cyfalaf ar gyfer pobl sy'n mynd i ofal preswyl - gallant gadw hyd at £50,000 o'u cyfoeth cyn gorfod talu tuag at eu gofal. Dyma'r cynllun mwyaf hael yn y DU.
- Mae Llafur Cymru wedi cynnal cap ar daliadau am wasanaethau gofal y mae pobl yn eu cael yn eu cartrefi eu hunain ar uchafswm o £100. Mae pobl ar incwm isel yn talu llawer llai neu ddim byd o gwbl am eu gwasanaethau cymorth cartref.
- Mae ein haddewid i adeiladu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig mewn cymunedau lleol ledled Cymru wedi'i gyflawni yn Nhonypandy, Aberaeron, Abergwaun, Murton, Penclawdd, Rhuthun, Aberpennar a Phontypridd. Mae 11 canolfan arall ar wahanol gamau o gynllunio uwch.
- Darparom gronfa ymladd Covid gwerth £150m i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru a sicrhau Offer Amddiffynnol Personol am ddim i weithwyr gofal. Hefyd fe ddarparwyd Cronfa Ymateb Covid-19 y Trydydd Sector gwerth £24m a fu o gymorth i amddiffyn elusennau a sefydliadau gwirfoddol yn ariannol trwy'r argyfwng a helpu i hyrwyddo mwy o wirfoddoli.
- Sicrhaodd Llafur Cymru daliad arbennig o £500 i bron 70,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru yn 2020 a £735 arall yn 2021 i ddiolch iddynt am eu hymroddiad yn ystod y pandemig.
- Rydym wedi darparu mwy na 1,000 o gyfrifiaduron llechen i 584 o gartrefi gofal fel rhan o'n rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.
- Rydym yn gwerthfawrogi byddin gofalwyr di-dâl Cymru - rydym wedi cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth Hawliau Gofalwyr ac wedi lansio Cynllun Gofalwyr Cenedlaethol newydd i gael gwell gwasanaethau i ofalwyr. Rydym yn ariannu tair elusen fawr i ofalwyr gyda mwy na £3m mewn grantiau a £1m arall i gefnogi hawliadau caledi.
- Ariannom gynllun cyfeillio cenedlaethol Ffrind Mewn Angen ar gyfer pobl hŷn sy'n ynysig neu'n unig. Lansiwyd ein gweledigaeth o Gymru sydd o blaid hawliau a phobl hŷn yn ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, sy'n hyrwyddo parch a chydgefnogaeth rhwng cenedlaethau ac yn ein helpu ni i gyd i heneiddio'n dda.