PENNOD 5.
Ynni ac Amgylchedd Gwyrddach
Addewid Llafur Cymru i Gymru
Byddwn yn:
- Deddfu i ddileu'r defnydd o blastigau untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel, gan arbed ein moroedd a'n cefn gwlad rhag pla llygredd plastig. Byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig i gymell busnesau i leihau gwastraff.
- Creu Coedwig Genedlaethol i ymestyn o Ogledd Cymru i'r De, gan wella 20 o goetiroedd presennol a sicrhau iddynt ddynodiad Coedwig Genedlaethol. Byddwn yn cefnogi cymunedau i greu 30 o goetiroedd newydd a chysylltu ardaloedd cynefin. Byddwn yn cryfhau'r amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol. Byddwn yn harneisio potensial economaidd, diwylliannol a hamdden y Goedwig Genedlaethol mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, gan adeiladu ar ein cynnydd tuag at greu diwydiant coed cynaliadwy.
- Creu system newydd o gymorth fferm a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur trwy ffermio, gan sicrhau y bydd bwydydd yng Nghymru yn cael eu cynhyrchu o fewn terfynau amgylcheddol. Dim ond ar gyfer cynhyrchu bwyd sy'n sicrhau canlyniadau amgylcheddol ychwanegol y bydd ffermwyr yn derbyn cymhorthdal cyhoeddus. Byddwn yn datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.
- Sicrhau diogelwch tomenni glo trwy gyflwyno deddfwriaeth i ddelio ag etifeddiaeth canrifoedd o fwyngloddio, gan gryfhau pwerau awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyhoedd a'r amgylchedd yn cael eu diogelu.
- Ariannu amddiffyniad rhag llifogydd ychwanegol i fwy na 45,000 o gartrefi. Byddwn yn darparu rheolaeth llifogydd ar sail natur ym mhob dalgylch afon fawr i ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir ar yr un pryd â lleddfu pwysau ar amddiffynfeydd caled. Byddwn yn deddfu i gryfhau'r gofynion ar gyfer defnyddio systemau draenio cynaliadwy sy'n darparu cynefin bywyd gwyllt.
- Gosod y safonau rhyngwladol uchaf o ansawdd aer mewn cyfraith trwy Ddeddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Byddwn yn ehangu'r ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer i annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad gyda golwg ar ostwng a dileu llygredd yn y ffynhonnell.
- Dynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Byddwn yn dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan fonitro mwy ar ansawdd y dŵr fel bod afonydd yn cyrraedd yr un safonau uchel â thraethau Cymru. Byddwn yn sefydlu cynllun wedi'i dargedu i hyrwyddo gwaith adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli ar hyd ein harfordir.
- Cefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi a dwyn ynghyd rwydwaith her sero-wastraff, yn seiliedig ar leoliadau, i gefnogi newid diwylliannol mewn busnesau a chymunedau.
- Cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar dir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni. Byddwn yn ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i lefel dros 100MW erbyn 2026, gan weithio tuag at ein targed o 1GW o ran capasiti ynni adnewyddaday yn y sector cyhoeddus ac yn ein cymunedau erbyn 2030.
- Gorfodi moratoriwm ar ganiatâd yn achos pob cyfleuster llosgi mawr.
- Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, cyflwyno cofrestriad ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu ar gyfer saethu, ac arddangosion anifeiliaid. Byddwn yn gwella'r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid i godi eu statws proffesiynol. Bydd angen teledu cylch cyfyng ym mhob lladd-dy, byddwn yn gwahardd defnyddio maglau, ac yn cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir. Ni fyddwn yn caniatáu difa moch daear i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.
- Ehangu'r cynllun llwyddiannus sy'n cefnogi grwpiau cymunedol ledled Cymru i greu neu wella’n sylweddol y mannau gwyrdd hygyrch sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau lleol, gan gynnwys:
2000 o safleoedd cynefin peillwyr.
1000 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol.
200 o berllannau cymunedol yn tyfu ffrwythau brodorol.
100 o ‘Goedwigoedd Bach’ - coetiroedd trwchus ac amrywiol o faint cwrt tennis.
50 o gynlluniau creu cynefinoedd mewn gorsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd trafnidiaeth.
50 o erddi synhwyraidd at ddibenion therapiwtig, wedi'u darparu mewn partneriaeth ag elusennau iechyd a GIG Cymru.
Dyfodol gwyrddach yw'r unig ddyfodol hyfyw sydd gennym.
Rhaid i'r broses o ddatblygu perthynas fwy cynaliadwy â'r byd naturiol ddechrau yn ein cymunedau lleol - cael mynediad i fannau gwyrdd lleol oherwydd y buddiannau llesol, economi leol sy'n osgoi gwastraff, ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, bwyd a dyfir yn lleol, a chadw pob cymuned yn ddiogel rhag effaith llygredd a'r hinsawdd sy'n newid.
Bydd y math o drawsnewidiad gwyrdd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ei gyflawni yn integreiddio ein camau cadarnhaol dros natur i fwy o'n gweithgaredd economaidd - o ffermio defaid i gynhyrchu dur - byddwn yn blaenoriaethu buddsoddiad yn y sgiliau sydd eu hangen arnom i baratoi ein dinasyddion i gwrdd â'r heriau a gawn o newid yn yr hinsawdd.
Rhaid i ddyfodol gwyrddach fod yn ddyfodol tecach hefyd ac ni allwn ddibynnu ar y farchnad rydd i'w gyflawni. Fel y dangosodd yr argyfwng iechyd diweddar, mae gweithredu ar y cyd, gyda chefnogaeth llywodraeth leol a chenedlaethol gymaint yn fwy effeithiol i sicrhau newid ystyrlon.
Byddwn yn sicrhau bod natur a hinsawdd ar agenda pob busnes gwasanaeth cyhoeddus a sector preifat, a byddwn yn edrych i weld enillion amgylcheddol ar unrhyw fuddsoddiad cyhoeddus.
Nid argyfwng ar y gweill i’r byd yw'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae yma eisoes, ac mae gan Lafur Cymru y weledigaeth a'r uchelgais i gynllunio dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i ni i gyd.
Beth wnaethom mewn llywodraeth
- Mae ein cynllun Cartrefi Cynnes wedi gosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn mwy na 60,000 o gartrefi, gan leihau biliau tanwydd a gwella iechyd.
- Trwy ein cyllid i Gyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn amddiffyn dros 70,000 o gartrefi rhag llifogydd. Rydym hefyd wedi ariannu awdurdodau lleol i adeiladu rhwydwaith o amddiffynfeydd llifogydd i amddiffyn degau o filoedd yn fwy, lefel uwch o fuddsoddiad mewn amddiffyn rhag llifogydd nag unrhyw le yn y DU lle mae'r Torïaid wrth y llyw.
- Trwy osod targedau ailgylchu, gwario £1 biliwn ers 2000 ar wella’r broses o gasglu gwastraff, a gwahardd plastigau untro, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi Cymru ar y blaen yn fyd-eang o ran ailgylchu.
- Ers i ni lansio Coedwig Genedlaethol i Gymru, rydym wedi cefnogi mwy na 30 o fusnesau coedwigaeth Cymru i adeiladu'r sylfeini ar gyfer plannu mwy o goed a chynnig hwb sylweddol i’r diwydiant coed cynaliadwy.
- Mae ffracio wedi cael ei wahardd yng Nghymru gan y llywodraeth Lafur Cymru hon, ac mae llai a llai o danwydd ffosil yn cael ei gloddio yng Nghymru.
- Trwy gynnal y safonau dŵr ymdrochi uchaf yn y DU, mae traethau Cymru wedi sicrhau dros 40 o Wobrau Baner Las
- Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi cadw'r wlad yn rhydd rhag tyfu cnydau a addaswyd yn enetig.
- Rydym wedi cyflwyno rheoliadau llym i leihau llygredd amaethyddol a fydd yn helpu ffermwyr i chwarae eu rhan i wella iechyd ein hafonydd.
- Cyflwyno rheoliad i wahardd gwerthiant cŵn bach a chathod bach trydydd parti, a elwir yn gyffredin yn ‘Gyfraith Lucy,’ ac rydym wedi gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
- Trwy ein rhaglen Cymru ac Affrica, rydym wedi plannu mwy na 15 miliwn o goed yn Uganda gan sicrhau bywoliaeth, amddiffyn cymunedau, a helpu’r amgylchedd.